Cyngor Bwrdeistref Sirol Rhondda Cynon Taf

Ga i drosglwyddo buddion pensiwn i'r Cynllun Pensiwn Llywodraeth Leol (LGPS)?

Yn gyffredinol, mae'n bosibl trosglwyddo buddion o gynllun pensiwn arall. 

Os ydych chi am drosglwyddo i Gronfa Bensiwn Rhondda Cynon Taf, lawrlwythwch Ffurflen Gais am Drosglwyddo i'r Cynllun o'r adran 'Dogfennau a Ffurflenni'r Gronfa'.

Nodwch: mae gyda chi 12 mis o'r dyddiad y gwnaethoch chi ymuno â'r cynllun i drosglwyddo unrhyw hawliau blaenorol i'r gronfa. Mae manylion pellach am drosglwyddo i'w gweld yn y Ffurflen Ddatgan i Aelodau Newydd – Nodiadau sydd ar gael i chi ei lawrlwytho o Adran “Dogfennau’r Cynllun” yn eich cyfrif Fy Mhensiwn Ar-lein. Mae modd i chi fewngofnodi i'ch cyfrif yma; https://mypensiononline.rctpensions.org.uk/login. Nodwch: bydd angen i chi fewngofnodi i'ch cyfrif Fy Mhensiwn Ar-lein (neu gofrestru os nad ydych wedi gwneud hynny eisoes) i fwrw golwg ar y ffurflen yma.

Mae modd dod o hyd i ragor o wybodaeth am drosglwyddo i'r CPLlL ar y wefan i aelodau yma;  https://www.lgpsmember.org/your-pension/paying-in/transferring-in/

Da o beth yw cael cyngor ariannol annibynnol cyn bwrw ymlaen, er mwyn sicrhau bod hynny o fudd ichi.

Os ydych chi o'r farn bod gyda chi fuddion pensiwn o weithle neu gynllun pensiwn personol blaenorol a dydych chi ddim yn gwybod ble maen nhw'n cael eu cadw, mae modd i chi ymweld â www.gov.uk/find-pension-contact-details i ddod o hyd i fanylion cyswllt y sefydliad perthnasol.