Cyngor Bwrdeistref Sirol Rhondda Cynon Taf

Newyddion Diweddaraf

Mae’r adran yma'n rhoi gwybodaeth am straeon newyddion cyfredol sy’n ymwneud â phensiynau, a chaiff ei diweddaru’n rheolaidd er mwyn cynnwys y newyddion diweddaraf a datblygiadau o fewn y Cynllun Pensiwn Llywodraeth Leol (CPLlL).

Datganiad ynghylch Ceisiadau Dadfuddsoddi

Mae'r datganiad canlynol yn darparu diweddariad i Aelodau'r Cynllun a Chyflogwyr y Cynllun ynglŷn â galwadau i dadfuddsoddi buddsoddiadau cynllun pensiwn llywodraeth leol sydd i’w gweld yn cefnogi'r gwrthdaro diweddar yn y Tiriogaethau Meddianedig Palesteina.

Cyfrifoldeb pennaf Cronfa Bensiwn Rhondda Cynon Taf yw gweithredu er budd ariannol gorau aelodau a chyflogwyr ein cynllun. Yn rhan o'r Cynllun Pensiwn Llywodraeth Leol, mae'n ofynnol i ni yn ôl y gyfraith sicrhau bod y Gronfa'n cael ei rheoli'n briodol er mwyn talu pensiynau pan maen nhw'n ddyledus.

Pwyllgor Cronfa Bensiwn Rhondda Cynon Taf sy'n gyfrifol am fuddsoddiad y Gronfa Bensiwn, ac mae Cyngor Bwrdeistref Sirol Rhondda Cynon Taf yn gyfrifol am y buddsoddiad yna. Mae gan y Pwyllgor gyfrifoldebau ymddiriedol i weithredu'n unol â gofynion cyfreithiol, rheoliadau a'i fframweithiau ei hun sydd wedi'u nodi yn nogfennau llywodraethu'r Gronfa. Mae'r Gronfa'n parhau i gydymffurfio â'r holl gyfrifoldebau cyfreithiol yma.

Er bod y Gronfa’n cydnabod blaenoriaeth ei dyletswyddau ymddiriedolaethol, mae’n gallu rhoi sylw dyledus i egwyddorion ‘Buddsoddi Cyfrifol’, sydd wedi'u nodi yn ei Datganiad Strategaeth Buddsoddi. Rydyn ni'n cydnabod efallai bod gan aelodau a chyflogwyr y cynllun farn gref/wahanol mewn perthynas â materion polisi rhyngwladol. Mae cyngor Bwrdd Cynghori’r Cynllun Pensiwn Llywodraeth Leol yn glir bod buddsoddiadau'n parhau i ganolbwyntio ar ystyriaethau ariannol yn unig lle mae'n debyg bod gan aelodau'r cynllun farn wahanol ynghylch ystyriaethau anariannol.

Mae Bwrdd Cynghori’r Cynllun wedi ymateb i'r ymgyrch dadfuddsoddi mwyaf diweddar sydd wedi'i harwain gan Ymgyrch Undod â Phalesteina, sy'n cynnwys ceisiadau cyfreithiol manwl yn gofyn i gronfeydd Cynllun Pensiwn Llywodraeth Leol ddadfuddsoddi o gwmnïau sy'n gysylltiedig â thorri cyfraith ryngwladol yn ôl y sôn.

Ysgrifennodd Bwrdd Cynghori'r Cynllun at Weinidog y Llywodraeth Leol ar 13 Hydref 2025 yn gofyn barn Llywodraeth San Steffan ar y mater cymhleth yma er mwyn darparu eglurder i'r 86 Cronfa Cynllun Pensiwn Llywodraeth Leol (LGPS) ledled Lloegr a Chymru.

Yn lleol, mae'r mwyafrif o fuddsoddiadau Cronfa Bensiwn Rhondda Cynon Taf nawr yn cael eu rheoli trwy Bartneriaeth Pensiwn Cymru fel cronfeydd ar y cyd, mewn cydweithrediad â'r 8 Cronfa Bensiwn Cynllun Pensiwn Llywodraeth Leol sydd yng Nghymru. O ganlyniad, bydd angen i unrhyw ddull dadfuddsddi gael ei wneud trwy broses cydweithredol rhwng yr 8 Cronfa Gymreig.

Mae Partneriaeth Pensiwn Cymru yn ymrwymo i ddarparu datrysiadau buddsoddi i'w Awdurdodau Cyfansoddol. Bydd y datrysiadau yma'n eu galluogi nhw i weithredu eu strategaethau buddsoddi lleol, cyflawni eu dyletswyddau ymddiriedol ar gyfer aelodau eu cronfa bensiwn a chydymffurdio â Rheoliadau Cynllun Pensiwn Llywodraeth Leol (Rheoli a Buddsoddi Cronfeydd) 2016 ('Rheoliadau 2016’) (a chanllawiau statudol cysylltiedig).

Mae ystyried risgiau Amgylcheddol, Cymdeithasol a Llywodraethu'n rhan bwysig o oblygiadau'r Awdurdodau Cyfansoddol wrth lunio'u datganiadau strategaeth buddsoddi unigol (ar ben Rheoliadau 2016) ac wrth gyflawni eu dyletswyddau ymddireidol i'w haelodau mewn perthynas â buddsoddi. O ganlyniad, mae Partneriaeth Pensiwn Cymru yn darparu datrysiadau buddsoddi sy'n cynnwys ystyriaethau Amgylcheddol, Cymdeithasol a Llywodraethu. Fel y gwyddoch o'r fframwaith cyfreithiol presennol, does dim modd i bob Awdurdod Cyfansoddol gael ei ysgogi gan ystyriaethau moesegol yn unig wrth gyflawni ei ddyletswyddau ymddiriedol sy'n ymwneud â materion buddsoddi.

Mae Partneriaeth Pensiwn Cymru yn cydnabod y gall cam-drin Hawliau Dynol gynrychioli risg Amgylcheddol, Cymdeithasol a Llywodraethu sylweddol o fewn Partneriaeth Pensiwn Cymru, a'i Awdurdodau Cyfansoddol, ar ffurf risgiau llywodraethu (gan gynnwys risg ymryson a risg enw da). Rydyn ni hefyd yn cydnabod y gall y risgiau yma ffurfio neu ddatblygu i fod yn risgiau ariannol a chyfreithiol.

Ar 17 Tachwedd 2025, cyhoeddodd Partneriaeth Pensiwn Cymru ddatganiad wedi'i ddiweddaru ynglŷn â'i bwriad o ran gwaharddiadau a dadfuddsoddi er mwyn cryfhau trefniadau Partneriaeth Pensiwn Cymru ymhellach o ran 'Buddsoddi Cyfrifol':

Sedd Wag Newydd – Bwrdd Pensiynau

Mae Deddf Pensiynau Gwasanaeth Cyhoeddus 2013 yn ei gwneud yn ofynnol i ni sefydlu Bwrdd Pensiynau i sicrhau bod Cronfa Bensiwn Rhondda Cynon Taf yn cael ei llywodraethu a'i gweinyddu yn effeithiol. Ar 14 Ionawr 2015, cadarnhaodd Cyngor Rhondda Cynon Taf (Corff Gweinyddu) sefydlu Bwrdd Pensiwn i ddod yn weithredol o 1 Ebrill 2015.

Mae'r Bwrdd yn helpu Awdurdod Gweinyddu Cyngor Rhondda Cynon Taf, ac yntau'n 'Rheolwr Cynllun', i wneud y canlynol:

  • Sicrhau cydymffurfiaeth â'r Prif Reoliadau ac unrhyw ddeddfwriaeth arall sy'n ymwneud â llywodraethu a gweinyddu'r Cynllun Pensiwn Llywodraeth Leol;
  • Sicrhau cydymffurfiaeth â'r gofynion sy'n cael eu pennu mewn perthynas â'r CPLlL gan y Rheolydd Pensiynau; a
  • Sicrhau llywodraethu a gweinyddu effeithiol ac effeithlon o'r CPLlL gan y Rheolwr Cynllun.
  • Mae'r Rheolydd Pensiynau wedi llunio canllaw cyflym i Fyrddau Pensiwn Gwasanaethau Cyhoeddus y mae modd bwrw golwg arno, yma: https://www.thepensionsregulator.gov.uk/en/document-library/code-of-practice

Mae sedd wag ar gael ar Fwrdd Pensiynau Rhondda Cynon Taf ar gyfer Cynrychiolydd Aelodau. Mae'n ofynnol i'r Bwrdd gwrdd ddwywaith y flwyddyn. Er mwyn cael eich ystyried, rhaid bod modd i chi fod yn gyfarwydd â'r canlynol:

  • deddfwriaeth a rheoliadau sy’n berthnasol i’r Cynllun Pensiwn Llywodraeth Leol
  • unrhyw ddogfen sy’n cofnodi polisïau’n ymwneud â gweinyddu’r gronfa
  • a deall a gwybod am y canlynol:
  • y gyfraith sy'n ymwneud â phensiynau
  • unrhyw faterion eraill sydd wedi'u pennu mewn rheoliadau.
  • I gael disgrifiad manylach o'r swyddogaeth a chylch gorchwyl y Bwrdd Pensiynau darllenwch y Cylch Gorchwyl a'r Swyddogaethau a Chyfrifoldebau.

Cliciwch yma.

Bydd Cynrychiolwyr Aelodau yn derbyn tâl am gyflawni eu dyletswyddau. Os ydych chi'n gyflogedig ar hyn o bryd, gwiriwch â'ch Cyflogwr ynghylch ei bolisi ar ganiatáu amser i chi fynychu Cyfarfodydd Bwrdd a Sesiynau Hyfforddi gan y bydd angen i chi allu ymrwymo i fynychu dau Gyfarfod Bwrdd y flwyddyn a sesiynau hyfforddiant perthnasol.

Os ydych chi am gael eich ystyried ar gyfer y sedd wag yma, cwblhewch y ffurflen gais a'i hanfon i pensiynau@rctcbc.gov.uk gyda'r canlynol yn y llinell pwnc: “Sedd wag ar y Bwrdd Pensiynau (Cynrychiolydd Aelodau)”. Y dyddiad cau yw 11 Medi 2026. Bydd yr ymgeisydd llwyddiannus yn cael ei ddewis o blith y rheiny sydd wedi cyflwyno cais (efallai y bydd angen cynnal cyfweliadau) a byddwn ni'n rhoi gwybod i bob ymgeisydd a yw wedi bod yn llwyddiannus ai peidio erbyn 25 Medi 2026. Mae cyfarfod o'r Bwrdd Pensiwn Lleol wedi'i drefnu ar gyfer 2 Tachwedd 2026, y byddai disgwyl i'r ymgeisydd llwyddiannus ei fynychu.