Mae eich cyfradd gyfrannu’n dibynnu ar faint rydych chi’n cael eich talu, ond bydd rhwng 5.5% a 7.5% o’ch cyflog pensiynadwy. Mae’r gyfradd y byddwch chi’n ei thalu’n dibynnu ar ba fand cyflog rydych chi’n perthyn iddo.
Os ydych chi’n gweithio’n rhan-amser, bydd eich cyfradd yn seiliedig ar y gyfradd gyflog lawn amser ar gyfer eich swydd, ond dim ond cyfraniadau ar y cyflog pensiynadwy rydych chi’n ei ennill mewn gwirionedd fyddwch chi’n eu talu.
Mae’r gyfradd y byddwch chi’n ei thalu’n dibynnu ar ba fand cyflog rydych chi’n perthyn iddo:
2025/2026
Cyflog Crynswth (llawn amser)
|
Cyfradd Gyfrannu'r Prif Gynllun
|
Cyfradd Gyfrannu Opsiwn 50/50
|
£0 - £17,800
|
5.5%
|
2.75%
|
£17,801 to £28,000
|
5.8%
|
2.90%
|
£28,001 to £45,600
|
6.5%
|
3.25%
|
£45,601 to £57,700
|
6.8%
|
3.40%
|
£57,701 to £81,000
|
8.5%
|
4.25%
|
£81,001 to £114,800
|
9.9%
|
4.95%
|
£114,801 to £135,300
|
10.5%
|
5.25%
|
£135,301 to £203,000
|
11.4% |
5.70% |
Mwy na £203,000 |
12.5% |
6.25% |
Fel arfer, bydd y gost wirionedd i aelodau’n llai na’r cyfraniadau pensiwn a ddangosir, gan fod cyfraniadau’n cael gostyngiad yn y dreth ac mae cyfraniadau Yswiriant Gwladol yn is fel arfer i’r rhan fwyaf o bobl dan oedran pensiwn y wladwriaeth.
Fel arfer, bydd y gost wirionedd i aelodau’n llai na’r cyfraniadau pensiwn a ddangosir, gan fod cyfraniadau’n cael gostyngiad yn y dreth ac mae cyfraniadau Yswiriant Gwladol yn is fel arfer i’r rhan fwyaf o bobl dan oedran pensiwn y wladwriaeth.
Mae eich cyflogwr yn talu gweddill y costau o ddarparu’ch buddion i’r Cynllun Pensiwn Llywodraeth Leol. Caiff adolygiad annibynnol ei gynnal bob tair blynedd i gyfrifo faint ddylai eich cyflogwr gyfrannu at y cynllun.
Mae’n bosibl y bydd angen i gyflogwyr a gweithwyr rannu’r cynnydd neu’r gostyngiadau i’r gost o ddarparu’r cynllun yn y dyfodol, yn unol â chanllawiau’r llywodraeth.