Cyngor Bwrdeistref Sirol Rhondda Cynon Taf

Dyddiadau talu a chynnydd mewn pensiynau

Dyddiadau talu pensiynau ar gyfer 2026/2027

Tân

Cyflogres 96 

Llywodraeth Leol  

Cyflogres 98

Diwedd y mis 

Llywodraeth Leol

Cyflogres 99 (ddim yn

berthnasol i aelodau

newydd)

Canol y mis 

 Mai 01

Ebrill 30

Ebrill 16

Mehefin 01

Mai 29

Mai 15

Gorffennaf 01

Mehefin 30

Mehefin 16

Gorffennaf 31

Gorffennaf 31

Gorffennaf 16

Medi 01

Awst 28

Awst 14

Hydref 01

Medi 30

Medi 16

Hydref 30

Hydref 30

Hydref 16

Rhagfyr 01

Tachwedd 30

Tachwedd 16

Rhagfyr 31

Rhagfyr 31

Rhagfyr 16

Chwefror 01

Ionawr 29

Ionawr 15

Mawrth 01

Chwefror 26

Chwefror 16

Ebrill 01

Mawrth 31

Mawrth 16

Nodwch: Bydd pensiynwyr newydd yn ymuno ag un ai Cyflogres 96 neu 98 gan ddibynnu ar bwy yw eu cyflogwr.


Cynnydd pensiwn eleni (2026/2027)

)

Bydd y cynnydd blynyddol yn eich Pensiwn Llywodraeth Leol yn seiliedig ar y Mynegai Prisiau Defnyddwyr ym mis Medi’r flwyddyn flaenorol – roedd hynny’n 3.8% ym mis Medi 2025.

Fel arfer, bydd eich pensiwn yn cynyddu os:

  •  ydych chi’n 55 oed neu’n hŷn
  • neu os ydych chi’n cael pensiwn gŵr/gwraig, buddiolwr neu blentyn
  •  neu os ydych chi wedi ymddeol oherwydd salwch

Os na fyddwch chi’n dod o dan unrhyw un o’r uchod, bydd eich pensiwn yn cynyddu beth bynnag, ond fydd e ddim yn cael ei dalu tan eich pen-blwydd yn 55 oed.

Y Gronfa Bensiwn sy’n talu am y cynnydd mewn pensiwn, ond pan fyddwch chi’n cyrraedd oedran ymddeol y wladwriaeth, bydd hyn yn newid, a bydd rhywfaint o’r cynnydd yn cael ei dalu gan y Llywodraeth a rhywfaint yn parhau i gael ei dalu gan y Gronfa.