Cofiwch roi gwybod i ni am unrhyw newidiadau yn eich manylion personol.
Mae modd lawrlwytho ffurflen ar gyfer newid eich manylion eich banc neu eich cyfeiriad drwy glicio yma).
Mae modd i chi ddiweddaru’ch manylion drwy ddefnyddio Fy Mhensiwn Ar-lein. Dyma gyfleuster ar-lein sy’n ei gwneud hi’n bosibl i aelodau cronfa ddiweddaru eu manylion yn uniongyrchol heb orfod anfon ffurflen aton ni. Mae modd cofrestru ar gyfer y gwasanaeth yma drwy glicio ar y ddolen gyswllt yma
https://www.mypensiononline.rctpensions.org.uk/
Os ydych chi wedi cofrestru cyfrinair gyda ni, bydd modd i chi roi gwybod i ni fod eich cyfeiriad wedi newid dros y ffôn. Fel arall, defnyddiwch y ffurflen uchod i roi gwybod am newidiadau.
Os ydych chi am gofrestru cyfrinair gyda ni fel bydd modd i ni gymryd manylion dros y ffôn, cliciwch yma i lawrlwytho ffurflen.
Caiff aelodau sydd wedi ymddeol (ac sydd wedi cofrestru cyfrinair eisoes) roi gwybod am y newidiadau yma dros y ffôn.