Mae Cynllun Pensiwn y Diffoddwyr Tân yn gynllun pensiwn galwedigaethol buddion diffiniedig a gaiff ei gymeradwyo gan dreth. Mae’r trefniadau o dan Gynllun Pensiwn y Diffoddwyr Tân 1992, Cynllun Pensiwn y Diffoddwyr Tân (Cymru) 2007 ac o 1 Ebrill 2015, Cynllun Pensiwn y Diffoddwyr Tân (Cymru) 2015 newydd, yn cynnig ystod buddion sy'n darparu sicrwydd ariannol yn y cyfnod hyd at ymddeoliad a thu hwnt.
Cyngor Bwrdeistref Sirol Rhondda Cynon Taf sy'n gweinyddu'r Cynlluniau yma ar ran Gwasanaeth Tân ac Achub De Cymru. Rydyn ni'n gweithio'n agos gyda Gwasanaeth Tân ac Achub De Cymru er mwyn sicrhau llif gwybodaeth gywir ac amserol wrth weinyddu eich cofnod(ion) pensiwn.
Am ragor o wybodaeth ynglŷn â'r cynllun, gweler y Canllaw i Aelodau Cynllun Pensiwn y Diffoddwyr Tân Cymru neu ewch i wefan Aelodau Cynllun Pensiwn y Diffoddwyr Tân yn: https://fpsmember.org
Canllaw i Aelodau Cynllun Pensiwn Diffoddwyr Tân Cymru 2015